Colombia

gwlad sofran yn Ne America From Wikipedia, the free encyclopedia

Colombia
Remove ads

Gwlad yng ngogledd-orllewin De America yw Gweriniaeth Colombia neu Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, /re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja/). Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith Afon Amazonas.

Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.

Remove ads

Daearyddiaeth

Prif erthygl y categori hwn yw Daearyddiaeth Colombia

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Hanes

Prif erthygl y categori hwn yw Hanes Colombia

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gwleidyddiaeth

Prif erthygl y categori hwn yw Gwleidyddiaeth Colombia

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Diwylliant

Prif erthygl y categori hwn yw Diwylliant Colombia

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Economi

Prif erthygl y categori hwn yw Economi Colombia

Mae'r wlad yn enwog fel un o'r cynhyrchwyr coffi mwyaf yn y byd. Mae tyfu coca yn ddiwydiant traddodiadol hefyd.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Colombia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads