Coweit
gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwlad Arabaidd yng ngorllewin Asia a'r Dwyrain Canol ar arfordir Gwlff Persia yw Coweit[1] (Arabeg: الكويت). Yn swyddogol, ei henw yw "Gwladwriaeth Coweit" (Dawlat al-Kuwayt). Fe'i lleolir rhwng de-orllewin Irac a gogledd-ddwyrain Sawdi Arabia yng ngorllewin Asia, ar ben eithaf Gwlff Persia.
Mae'r enw'n tarddu o'r Arabeg أكوات ākwāt, كوت kūt, sy'n golygu "Caer a godwyd ar fin y dŵr".[2] Mae ei harwynebedd yn 17,820 cilometr sgwâr (6,880milltir sgwâr) ac mae ei phoblogaeth fymryn yn llai na Chymru: 2.8 miliwn.[3]
Remove ads
Rhyfel y Gwlff
- Prif: Rhyfel y Gwlff
Enwau eraill ar y rhyfel yw "Rhyfel Irac 1" neu "Operation Desert Storm" a gafodd ei ymladd gan 34 o genhedloedd yn erbyn Irac rhwng 2 Awst 1990 a 28 Chwefror 1991. Unwyd y gwledydd hyn gan y Cenhedloedd Unedig o dan arweiniad Unol Daleithiau America. Digwyddodd y rhyfel fel ymateb i ymosodiad Irac ar Goweit ar 2 Awst 1990. Ar unwaith digwyddodd dau beth: symudodd yr Unol daleithiau ei llynges arfog i'r ardal ac yn ail ymatebodd nifer o genhedloedd gyda sancsiynau economaidd yn erbyn Irac.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

