Cwlen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pedwaredd dinas fwyaf yr Almaen yw Cwlen (Almaeneg: Köln /kœln/, Ffrangeg a Saesneg: Cologne) ar ôl Berlin, Hambwrg a München, gyda tua un filiwn o drigolion. Mae wedi'i lleoli yn nhalaith Nordrhein-Westfalen, ar lan Afon Rhein. Mae hi'n adnabyddus iawn am ei heglwys gadeiriol yn y dull Gothig.

Remove ads
Hanes
Dechreuodd yr hanes Cwlen tua dwyfil o flynyddoedd yn ôl gan sefydliad y ddinas gan y Rhufeinwyr yn 19 OC. Enw cyntaf y ddinas oedd "Oppidum Ubiorum" tan 50 OC, pan codwyd y dref i ddinas gan ymerawdwr Rhufain Claudius ar ôl i'w wraig e Agrippina, sydd fod wedi ceni yn Oppidum Ubiorum ac yn wnes ymlaen wedi mynd i Rufain, erchi iddo fe am hynny. Newidiwyd enw'r ddinas i "Colonia Claudia Ara Agrippinensium", neu CCAA yn fyr wedyn. Datblygwyd enw diwedda'r ddinas, Köln o'r gair Lladin Colonia, sy'n golygu gwladfa. Mae'r enwau yn llawer o ieithiau eraill, fel Cologne yn y Saesneg a Ffrangeg, Kolonia yn y Pwyleg, a hefyd Cwlen yn y Gymraeg yn dod o honna.
Remove ads
Santes Ursula
Roedd Ursula yn dywysgoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw at ei darpar-ŵr Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy yr holl fordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Aeth i ddinas Rhufain, ac yna ymlaen i Gwlen, oedd dan warchae gan yr Hyniaid. Merthyrwyd y gwyryfon i gyd, a saethwyd Ursula ei hun yn farw gan arweinydd yr Hyniaid. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383. Ym Masilica y Santes Ursula yng Nghwlen, ceir creiriau y dywedir eu bod yn weddillion Ursula a'r gwyryfon. Daeth Cwlen yn ganolfan pererindod o bwys mawr yn yr Oesoedd Canol gyda phobl yn tyrru yno o bob rhan o Ewrop. Ceir delwedd o'r Santes Ursula ar arfbais Baner Ynysoedd Prydeinig y Wyryf yn y Caribî.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Römisch-Germanisches
- Amgueddfa Wallraf-Richartz
- Colonius
- Eglwys gadeiriol
- Hansa Hochhaus
- Kölner Philharmonie
- Kölnturm
- Lanxess Arena
- Messeturm Köln
- RheinEnergieStadion
Enwogion
- Carl Bosch (1874-1940), cemegydd
- Jacques Offenbach (1819-1880), cyfansoddwr
- Konrad Adenauer (1876-1967), gwladweinydd
- Heinrich Böll (1917–1985), Awdur Almaeneg
Gefeilldrefi
Gweler hefyd
- Y Tri Brenin o Gwlen - un'r dramâu mirag cynharaf[1]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads