Cwmystwyth
pentref yng Ngheredigion From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref yn nwyrain Ceredigion yw Cwmystwyth, hefyd Cwm Ystwyth. Saif ar lan Afon Ystwyth ac ar y ffordd gefn sy'n arwain dros yr ucheldir o ardal Pontrhydygroes i dref Rhaeadr Gwy.
Mae'r Arolwg Ordnans yn cyfrifo Cwmystwyth fel Canolbwynt daearyddol Cymru (52°19′48.791″N 3°45′59.072″W; cyfeiriad grid SN7972871704).[1]
Ceir tystiolaeth archaeolegol o gloddio copr yma a ddyddir i tua 1500 CC, a cheir cofnodion hanesyddol o gloddio plwm o tua 1500 OC ymlaen. Yn y 19g roedd diwydiant plwm yr ardal yma o gryn bwysigrwydd. Cloddfa Cwm Cwmstwyth oedd y fwyaf o gloddfeydd plwm yr ardal yma. Dywedir mai 32 oedd yr oedran marw ar gyfartaledd yng Nghwmystwyth yn y cyfnod yma, yn bennaf oherwydd gwenwyno plwm.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads