Cwmwd

ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yn yr Oesoedd Canol, ac israniad o'r cantref From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd Cwmwd, ac israniad o'r cantref. Mae'n ddigon tebygol i'r cwmwd gael ei greu oherwydd cynnydd yn y boblogaeth oddeutu 1050, ac felly daeth y cantref yn rhy fawr.

Roedd gan bob cwmwd lys barn a gynhelid yn y faerdref, prif ganolfan y cwmwd ac roedd ganddo hefyd ei ganolfan frenhinol. Goroesodd yr hen drefn Gymreig o gwmwd a llys ymhell wedi i Gymru golli ei hannibyniaeth. Ond wedi'r Deddfau Uno, statws yr hwndrwd Seisnig i lawer o gymydau a rhai cantrefi hefyd.

O'r gair cwmwd y ffurfiwyd y gair cyfarwydd 'cymydog': yn llythrennol "rhywun sy'n byw yn yr un cwmwd â chi".

Remove ads

Gweler hefyd

Am restr o gymydau Cymru, gweler Cantrefi a Chymydau Cymru.

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads