Cyfunrywioldeb

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cyfunrywioldeb
Remove ads

Gall cyfunrywioldeb gyfeirio at ymddygiad neu atyniad rhywiol rhwng pobl o'r un ryw, neu at gyfeiriadedd rhywiol. Yn achos cyfeiriadedd, mae'n disgrifio atyniad rhywiol a rhamantus parhaus tuag at rai o'r un ryw, ond nid yn angenrheidiol ymddygiad rhywiol.[1] Cyferbynnir gyfunrywioldeb â heterorywioldeb, deurywioldeb ac anrhywioldeb.

Ffeithiau sydyn Cyfeiriadedd rhywiolrhan o rywoleg, Gwahaniaethau ...
Thumb
Logo cyfunrywioldeb, sy'n dangos dau symbol gwryw wedi'u cysylltu ac yn mynd i'r un cyfeiriad.

Mae ymddygiad cyfunrywiol i'w gael ymhlith nifer o anifeiliaid ar wahân i fodau dynol, yn enwedig ymhysg anifeiliaid cymdeithasol.[2]

Thumb
Dau ddyn mewn partneriaeth cyfunrywiol
Remove ads

Terminoleg a geirdarddiad

Bathiad diweddar wedi'i seilio ar y gair Saesneg homosexuality (o'r Roeg hom (yr un peth) a'r Lladin sex (rhyw) yw "cyfunrywioldeb". Yn yr un modd ceir "anghyfunrywioldeb" i ddisgrifio pen arall y sbectrwm cyfeiriadedd rhywiol, er bod y term "heterorywioldeb" yn fwy cyffredin. Term Cymraeg llawer hŷn yw gwrywgydiaeth a chafodd ei ddefnyddio gan yr Esgob William Morgan ym Meibl Cymraeg 1588.[3] Er y rhan "gwryw" o'r gair, mewn nifer o gyd-destunau mae'n cyfeirio at weithredoedd a serchiadau rhywiol rhwng menywod yn ogystal â dynion. Mae nifer yn ffafrio cyfunrywioldeb fel term Cymraeg mwy modern, tra bo eraill yn cysylltu'r fath air ag hen agweddau meddygol tuag at gyfunrywioldeb fel afiechyd meddwl.[4] "Hoyw" yw'r term poblogaidd, anffurfiol i gyfeirio at gyfunrywioldeb, yn enwedig cyfunrywioldeb rhwng dynion, er ei fod yn gamgyfieithad o'r gair Saesneg gay: tan yn ddiweddar bu'r gair yn gyfystyr â "sionc" neu "bywiog".[5] Mae'r term "lesbiaidd" pob amser yn dynodi cyfunrywioldeb rhwng menywod. Termau mantell yw LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol) a LHDT (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol). Mae'r gair queer, oedd yn arfer cael ei ystyried yn sarhaus, wedi cael ei adfer gan bobl LHDT yn negawdau diweddar fel term positif.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads