Cynan ap Maredudd

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Roedd Cynan ap Maredudd (bu farw 1295), yn uchelwr o Gymru o Bowys ac yn arweinwr Gwrthryfel Cymreig 1294-95 yn y Canolbarth o 1294 hyd 1295. Gyda Maelgwn ap Rhys y De a Madog ap Llywelyn yn y Gogledd, roedd yn un o arweinwyr y gwrthryfel cenedlaethol yn erbyn rheolaeth y Saeson yng Nghymru.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Hanes

Cofnodir yn y cronicl canoloesol Brut y Tywysogion fod Cynan wedi cydarwain y gwrthryfel yn y De gyda Maelgwn ap Rhys, ond er ei fod yn bosibl ei fod wedi cynorthwyo Maelgwn yn y de, mae'r cyrchoedd a gysylltir a'i enw i gyd wedi eu lleoli yn y Canolbarth. Gwyddys iddo ymosod ar gastell Buallt, ac yn nes ymlaen ceisiodd gipio castell Cefnllys.

Pan ddiffygiodd y gwrthryfel cenedlaethol yn 1295, cafodd Cynan ei ddal a'i ddienyddio wedyn gan y Saeson yn Amwythig.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  • John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992)
  • Brut y Tywysogyon (Peniarth Ms. 20), gol. Thomas Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1941).
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads