Cynllo

sant From Wikipedia, the free encyclopedia

Cynllo
Remove ads

Sant o Gymru oedd Cynllo (fl. 5ed ganrif?). Yn ôl un traddodiad roedd yn fab i Far (neu 'Mor') ap Ceneu ap Coel Godebog (Coel Hen) o'r Hen Ogledd ac felly'n un o'r "Coeling", disgynyddion Coel, fel Llywarch Hen. Ond mae ffynonellau eraill yn ei wneud yn frawd i sant Teilo.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Mae'r lleoedd a gysylltir â Chynllo yng Nghymru yn cynnwys dau bentref o'r enw Llangynllo (sef Llangynllo (Powys) a Llangynllo (Ceredigion)). Ym Mhowys ceir Pistyll Cynllo, ffynnon enwog ym mhlwyf Llanbister. Yn yr Oesoedd Canol, Cynllo oedd nawddsant cantref Maelienydd. Roedd yn nawddsant Rhaeadr Gwy (Cwmwd Deuddwr) yn ogystal, a Llangoedmor yng Ngheredigion hefyd.

Ni wyddys ddim am ei fywyd. Ceir cyfeiriad at 'Weddi Cynllo' mewn cerdd enwog a briodolir i'r bardd Taliesin, sef "Dyhuddiant Elffin".

Dethlir gwylmabsant Cynllo ar 8 Awst.

Remove ads

Ffynonellau

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).
  • Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992)
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads