Dafydd Williams

gofodwr o Ganada From Wikipedia, the free encyclopedia

Dafydd Williams
Remove ads

Athro prifysgol, meddyg o Ganada a gofodwr wedi ymddeol o CSA yw Dafydd Rhys Williams (ganwyd 16 Mai 1954). Bu yn y gofod am 687 awr, ac yn "cerdded" y tu allan i'r llong ofod am 17 awr a 47 munud. Mae hefyd yn beilot trwyddedig ac yn nofiwr tanddwr.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Cafodd ei eni yn Saskatoon, Saskatchewan yng Ngorllewin Canada ond ganwyd ei dad ym Margod, Cymru.[1] Derbyniodd radd B.Sc o Prifysgol McGill, Montreal, ym 1976 a gradd meistr mewn Llawfeddygaeth ym 1983. Dechreuodd weithio i Asiantaeth Ofod Canada ym Mehefin, 1992. Gwasanaethodd i NASA o Orffennaf 1998 hyd Tachwedd 2002 fel Cyfarwyddwr Gwyddorau Bywyd Gofod yn Johnson Space Center.

Gwnaeth gyfweliad teledu ar y BBC, lle siaradodd Gymraeg, ac aeth a Chap Rygbi Rhyngwladol a enillwyd gan Gareth Edwards, Baner y Ddraig Goch[2] a gonc Mistar Urdd gydag ef ar daith i'r gofod[3].

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads