Dafydd Rowlands

llenor ac archdderwydd From Wikipedia, the free encyclopedia

Dafydd Rowlands
Remove ads

Roedd Dafydd Rowlands (25 Rhagfyr 193126 Ebrill 2001) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn ddarlithydd, ac fardd ac yn llenor. Fe'i ganwyd ym Mhontardawe. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pontardawe, lle bu ei athro Cymraeg, Eic Davies, yn ddylanwad mawr arno. Roedd yr actores Siân Phillips yn un o'i gyfoedion. Oddi yno aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle derbyniodd radd yn y Gymraeg, ac yna i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin i baratoi ar gyfer y weinidogaeth. Ar ôl cyfnod yn y weinidogaeth aeth i ddysgu yn Ysgol Ramadeg y Garw ac yn 1968 fe'i penodwyd ar staff Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn yr Adran Gymraeg, ac yn ddiweddarach dechreuodd ysgrifennu sgriptiau i'r teledu.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fflint 1969 a'r Goron a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro 1972. Bu'n archdderwydd (Dafydd Rolant) o 1996 i 1999.

Remove ads

Llyfryddiaeth

Remove ads

Astudiaethau

  • Alun Jones, "Holi Dafydd Rowlands", Yr Aradr 6 (1995): 152-201
  • Ioan Williams, "Nofel/Cerdd Mae Theomemphus yn Hen", yn Rhyddid y Nofel, gol. Gerwyn Wiliams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999), tt.238-45
  • "Dafydd Rowlands", yn Y Patrwm Amryliw: Cyfrol 2, gol. Robert Rhys (Abertawe: Cyhoeddiadau Barddas, 2006), tt.64-75
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads