Dag Hammarskjöld
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Diplomydd, economegydd ac awdur o Sweden ac Ysgrifennydd Cyffredinol Y Cenhedloedd Unedig oedd Dag Hjalmar Agne Carl Hammarskjöld (29 Gorffennaf 1905 – 18 Medi 1961). Bu yn y swydd o Ebrill 1953 tan ei farwolaeth mewn damwain awyren ym Mis Medi 1961 yn 47 oed. Ef, hyd yma, yw'r ieuengaf i ddal y swydd ail Ysgrifennydd y CU. Mae hefyd yn un o'r unig dri pherson erioed i dderbyn Gwobr Nobel wedi iddo farw,[1] a'r unig Ysgrifennydd Cyffredinol i farw wrth ei waith. Bu farw ar ei ffordd i gyfarfod negydu heddwch.

Mewn teyrnged iddo galwodd yr Arlywydd John F. Kennedy ef "y gwladweinydd mwyaf a gawsom am ganrif gyfan."[2]
Remove ads
Cefndir personol
Ganwyd Dag Hammarskjöld yn Jönköping, Sweden, ond treuliodd lawer o'i blentyndod yn Uppsala. Ef oedd pedwerydd mab Hjalmar Hammarskjöld, Prf Weinidg Sweden o 1914 hyd 1917, a'i wraig Agnes Hammarskjöld (née Almquist). Bu'n ddisgybl yn Katedralskolan ac yna ym Mhrifysgol Uppsala. Erbyn 1930, roedd ganddo Radd mewn Athroniaeth a Gradd Meistr yn y Gyfraith.
Cyn iddo gwbwlhau ei Radd Meistr roedd wedi sicrhau swydd fel Is-Ysgrifennydd Pwyllgor Diweithdra'r CU.[3]
Rhagflaenydd: Trygve Lie |
Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig 10 Ebrill 1953 – 18 Medi 1961 |
Olynydd: U Thant |
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads