David Trimble
gwleidydd, academydd a bargyfreithiwr (1944-2022) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd Prydeinig oedd William David Trimble, Barwn Trimble o Lisagarney (15 Hydref 1944 – 25 Gorffennaf 2022)[1] a fu'n arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast ("Cytundeb Gwener y Groglith") yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arweinydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a John Hume o'r SDLP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon.[2]
Ym mis Mehefin 2006, daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Trimble o Lisagarvey yn Swydd Antrim.[3] Yn Ebrill 2007, cyhoeddodd ei fod yn gadael yr UUP ac yn ymuno â Phlaid Geidwadol y DU.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads