Echtrae

From Wikipedia, the free encyclopedia

Echtrae
Remove ads

Term traddodiadol yn llenyddiaeth Iwerddon sy'n golygu 'taith (antur)' neu 'antur' yw echtrae (Gwyddeleg, ynganer echtre) neu echtra. Yn y rhestrau traddodiadol o'r chwedlau Gwyddelig mae'n cyfeirio at deithiau arwyr i barthau diarth a rhyfeddol sy'n gorwedd y tu hwnt i fyd dynoliaeth.

Mae'r echtrai yn ffurfio dosbarth arbennig o chwedlau sy'n gyffelyb eu naws i ddosbarth yr immramau. Y brif wahaniaeth rhyngddynt yw bod yr imrammai yn canolbwyntio ar y daith (mordaith fel rheol) tra bod yr echtrai yn disgrifio anturiaethau'r arwr neu'r arwyr yn yr Arallfyd.

Remove ads

Rhai echtrae

  • Echtrae Chonnlai ('Taith Antur Conla'), rhan o'r Cylch Hanesyddol.
  • Echtrae Cormaic i Tir Tairngiri ('Taith Antur Cormac yn Nhir Addewid')
  • Echtrae Nerai ('Taith Antur Neri'), un o ragchwedlau (remscéla) y Táin Bó Cuailgne sy'n dyddio i'r 10fed/11g efallai.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads