Ynys Elba

ynys yn Tuscany, yr Eidal From Wikipedia, the free encyclopedia

Ynys Elba
Remove ads

Ynys oddi ar arfordir gorllewinol yr Eidal yw Ynys Elba (Eidaleg: Isola d'Elba).

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Thumb
Ynys Elba

Poblogaeth wreiddiol yr ynys oedd y Ligwriaid, a roddodd ei hen enw, Ilva, i'r ynys. Yn ddiweddarach cipiwyd yr ynys gan yr Etrwsciaid, yna gan y Rhufeiniaid.

Preswylydd enwocaf yr ynys oedd Napoleon, a alltudiwyd yno dan delerau Cytundeb Fontainebleau yn 1814. Cyrhaeddodd Portoferraio ar 3 Mai, 1814. Bu yno am 300 diwrnod, gan wneud llawer i wella bywyd trigolion yr ynys. Dihangodd o'r ynys a dychwelyd i Ffrainc ar 26 Chwefror 1815.

Yn 1860 daeth yr ynys yn rhan o deyrnas unedig yr Eidal. Erbyn hyn mae'r ynys yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn enwog am ei gwin.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads