Erasmus Jones

nofelydd From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Llenor, awdur llyfrau hanes, a gweinidog ymneilltuol o Gymru oedd Erasmus Jones (17 Rhagfyr 18179 Ionawr 1909). Ysgrifennodd sawl nofel â chefndir Cymreig a llyfrau ar hanes y Cymry yn yr Unol Daleithiau.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Bywgraffiad

Ganed Erasmus Jones ym mhlwyf Llanddeiniolen, Arfon (Gwynedd), yn 1817. Yn 1833, yn ddyn ifanc 16 oed, ymfudodd i'r Unol Daleithiau i geisio gwella ei amgylchiadau, fel sawl Cymro tlawd arall yn y cyfnod yna. Daeth yn weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd Esgobol yn nhalaith Efrog Newydd cyn symud i fyw yn Utica, un o ganolfannau pwysicaf y Cymry alltud yn yr Unol Daleithiau (UDA).

Yn ogystal â sawl nofel yn y Saesneg, nad oes lawer o werth llenyddol iddynt, ysgrifennodd ddau lyfr ar hanes yr ymfudwyr Cymreig yn UDA, yn cynnwys hanes eu rhan yn y Gold Rush. Roedd yn eisteddfodwr brwd a enillodd wobrau yn "Eisteddfod Ffair y Byd" (Chicago, 1893), eisteddfod Pittsburgh, ac eraill.

Remove ads

Llyfryddiaeth

Nofelau

  • The Captive Youths of Judah (1856)
  • The Adopted Son of the Princess (1870)
  • Llangobaith: a story of north Wales (1886)

Llyfrau hanes

  • The Welsh in America (1876)
  • Gold, Tinsel and Trash (1890)

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads