Catalaneg
un o'r ieithoedd Romáwns From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o'r ieithoedd Romáwns yw Catalaneg (neu Catalwneg; Catalaneg: Català). Heblaw Catalwnia ei hun, siaredir yr iaith yn Andorra, Falensia, yr Ynysoedd Balearig ac yn ne-orllewin Ffrainc.[4] Yn ieithyddol, mae dau brif grŵp tafodieithol yn y Gatalaneg fodern: y tafodieithoedd gorllewinol, gan gynnwys Catalaneg y Gorllewin a Falensianeg; a'r grŵp dwyreiniol, gan gynnwys Catalaneg y Dwyrain, Baleareg, a Roussillonnais a'r dafodiaith a siaredir yn Alghero.[5][6] Cyfeirir at y tiriogaethau lle siaredir Catalaneg fel y Països Catalans gan genedlaetholwyr.
Remove ads
Nifer y siaradwyr
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn 2025 gan Moose.it, mae dros 10 miliwn o bobl yn siarad Catalaneg ar hyn o bryd.[7]
Geirfa ac Ymadroddion
- Catalaneg: Català
- helo: hola
- os gwelwch chi'n dda: si us plau
- diolch: gràcies; mercès
- faint ydyw?: quant val?; quant és?
- ie: sí
- na: no
- Dydw i ddim yn deall: No ho entenc
- "Iechyd Da!": salut!
- Ydych chi'n siarad Cymraeg?: Que parla el gal·lès?
- Ydych chi'n siarad Catalaneg?: Que parla el català?
Dysgu Catalaneg
Nid oes deunydd i ddysgu Catalaneg ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd, ond gall y rhain fod o ddefnydd:
- Digui, digui... Curs de català per a estrangers. A catalan Handbook. — Alan Yates and Toni Ibarz. — Generalitat de Catalunya. Departament de Cultura, 1993. -- ISBN 84-393-2579-7.
- Teach Yourself Catalan. — McGraw-Hill, 1993. — ISBN 0-8442-3755-8.
- Colloquial Catalan. — Toni Ibarz ac Alexander Ibarz. — Routledge, 2005. — ISBN 0-415-23412-3.


Viquipèdia

Caiff y Wicipedia Galatlaneg ei hystyried yn un o'r wicis gorau, mewn urhyw iaith.[8][9] Mae dros 760,000 o erthyglau (Ionawr 2025).[10]
Gweler hefyd
- Joan Oliver i Sallarès - un o lenorion mwyaf nodedig Catalwnia yn y 20G.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads