Fantastic Beasts and Where to Find Them (ffilm)

From Wikipedia, the free encyclopedia

Fantastic Beasts and Where to Find Them (ffilm)
Remove ads

Mae Fantastic Beasts and Where to Find Them yn ffilm ffantasi a lansiwyd yn 2016 ac a gyfarwyddwyd gan David Yates. Cynhyrchiad ar y cyd rhwng gwledydd Prydain ac America ydyw ac mae'n 'spin-off' o gyfres ffilm Harry Potter, a sgrifennu gan J.K. Rowling. Ysbrydolwyd gan y ffilm o'r un enw.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Lliw/iau ...

Mae cast y ffilm yn cynnwys, Eddie Redmayne, Katherine Waterston, Dan Fogler, Alison Sudol, Ezra Miller, Samantha Morton, Jon Voight, Carmen Ejogo, ac Colin Farrell. Hon oedd y ffilm cyntaf yn y gyfres ffilm Fantastic Beasts.

Ymddangosodd Fantastic Beasts and Where to Find Them am y tro cyntaf yn Efrog Newydd ar 10 Tachwedd 2016 a chafodd ei rhyddhau ledled y byd ar 18 Tachwedd 2016. Derbyniodd agolygiad positif, yn gyfredinol, a chynhyrchodd $814 miliwn ledled y byd. Enwebwyd y ffilm ar gyfer pum BAFTA, gan ennill wobr Dylunio Cynhyrchiad Gorau, ac fe'i enwebwyd ar gyfer dwy Wobr yr Academi, gan ennill y Dylunio Gwisgoedd Gorau. Cafodd dilyniant ei rhyddhau ar 16 Tachwedd or enw Fantastic Beasts: The Crimes of Grindelwald.

Remove ads

Actorion

  • Eddie Redmayne fel Newt Scamander.
  • Katherine Waterston fel Tina Goldstein.
  • Dan Fogler fel Jacob Kowalski.
  • Alison Sudol fel Queenie Golstein.
  • Ezra Miller fel Credence Barebone.
  • Samantha Morton fel Mary Lou Barebone.
  • Jon Voight fel Henry Shaw Sr.
  • Carmen Ejogo fel Seraphina Picquery.
  • Colin Farrell fel Percival Graves
  • Ron Perlman fel y llais o Gnarlack
  • Ronan Raftery fel Langdon Shaw
  • Josh Cowdery fel Henry Shaw Jr
  • Faith Wood-Blagrove fel Modesty Barebone
  • Jenn Murray fel Chastity Barebone
  • Kevin Guthrie fel Mr. Abernathy
  • Johnny Depp fel Gellert Grindelwald
  • Zoë Kravitz fel Leta Lestrange
Remove ads

Dilyniannau

Yn Hydref 2014, cyhoeddodd y stiwdio fod y ffilm yma'n dechra o drioleg. Yng Ngorfennaf 2016, cadanhaodd David Yates fod J.K. Rowling wedi ysgrifennu'r sgript ffilm ar gyfer yr ail ffilm ac fod ganddi syniad ar gyfer y trydydd. Yn Hyfdref 2016, cyhoeddodd J.K. Rowling fod fydd y gyfres yn cynnwys pump ffilm.

Mae'r dilyniant cyntaf dan y teitl Fantastic Beasts: The Crimes of Grindelwald, wedi cael ei rhyddhau nol ar y 16 Tachwedd 2018.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads