Fertibra

From Wikipedia, the free encyclopedia

Fertibra
Remove ads

Asgwrn onglog yn yr asgwrn cefn ydy fertebra (lluosog: fertebrâu). Mae 33 ohonynt o fewn asgwrn cefn y bod dynol, fel arfer wedi'u gosod mewn trefn arbennig ac sy'n eithaf hyblyg er mwyn i'r corff symud. Mae 5 ohonyn nhw, fodd bynnag yn stiff, yn anhyblyg a gelwir y 5 yma yn fertebrâu sacrol, ac felly hefyd y pedwar ar y gwaelod un, sef fertibrâu'r cwtyn (h.y. cwtyn y cefn).

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...

Mae'r tair rhan uchaf yr asgwrn cefn yn cynnwys: y fertebrâu gyddfol (7 fertebra), y fertebrâu thorasig (12 fertebra) a'r fertebrâu meingefnol (5 fertebra). Ar adegau, ceir un yn ormod neu un fertebra yn brin. Gellir teimlo'r rhan fwyaf ohonynt gyda'r bysedd noeth, a'u cyfri.

Dyma'r teuluoedd o fertebrâu:

  • fertebrâu'r cwtyn: 4 fertebra
  • fertebrâu'r sacrwm: 5 fertebra
  • fertebrâu meingefnol - 5 fertebra
  • fertebrâu thorasig - 12 fertebra
  • fertebrâu gyddfol - 7 fertebra
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads