Georgia

gwlad From Wikipedia, the free encyclopedia

Georgia
Remove ads

Gwlad ar lannau dwyreiniol y Môr Du yn y Cawcasws yw Georgia neu Siorsia. Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd cyn ennill ei hannibyniaeth ym 1991. Y gwledydd cyfagos yw Rwsia i'r gogledd, Twrci i'r de-orllewin, Armenia i'r de ac Aserbaijan i'r dwyrain. Rhwng 1990 a 1995, yr enw swyddogol ar y wlad oedd Gweriniaeth Georgia. Tbilisi yw prifddinas y wlad.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Mae'r erthygl yma am y wlad. Am y dalaith o'r Unol Daleithiau, gweler Georgia (talaith UDA)

Cenedl-wladwriaeth ddemocrataidd unedol yw Georgia ac mae treftadaeth hanesyddol a diwyllianol hynafol ganddi. Â gwareiddiad Georgaidd yn ôl mor bell â thair mil o flynyddoedd. Yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol, ystyrir Georgia yn rhan o Ewrop; fodd bynnag mae dosbarthu'r wlad fel un Ewropeaidd neu beidio yn dibynnu ar y ffynhonnell. Weithiau fe'i gelwir yn genedl draws-gyfandirol sy'n rhannol yn Ewrop ac yn rhannol yn Asia.

Remove ads

Hanes

Hanes cynnar Georgia tan 1991

Thumb
Cwpan Bedia o'r Brenin Bagrat III, 999 AD
Thumb
Hen Georgia - Colchis ac Iberia

Gelwid Georgia Colchis ac Iberia gan y Groegwyr. Roedd y wlad yn frenhiniaeth sefydlog yn y canrifoedd CC. Yma oedd cartref y Cnu Aur a geisiodd Jason a'i Argonautiaid.

Thumb
Brenhiniaeth Georgia ar ei orau, 1184-1225

Daeth y wlad dan y Rhufeinwyr fel "cleient" am 400 mlynedd. Wedi derbyn cristnogaeth tyfodd yn wlad annibynnol. Ildiodd y wlad i'r Arabiaid yn y 7fed ganrif am gyfnod, Yn AD 813, tywysog Ashot I dechreodd y dynasti Bagrationi a barhaodd am 1,000 mlynedd. Unodd gorllewin a dwyrain Georgia dan Bagrat V (1027–72). Erbyn y 12fed ganrif roedd Georgia yn rheoli dros Armenia, arfordir gogledd Twrci a rhan o Aserbaijan, dyma'r "Oes Aur" dan y brenin David a'i Wyres y Frenhines Tamar. Cymerwyd Tblisi yn 1226 gan y Brenin Kwarezmid (Persiaid) Mingburnu cyn syrthio i'r Mongoliaid yn 1236 ac ailfeddianwyd y wlad dan Timur yn 1386 a 1404. O'r 16g ymlaen rhannwyd Georgia rhwng Byzantium a Persia. Arhosodd dan Persia tan i'r brenin Heraclius II dod i rym fel brenin annibynnol yn 1762.

Ugain mlynedd ar ôl i Heraclius dod yn frenin daeth dylanwad y Rwsiaid yn gryfach, sefyllfa a barodd ddwy ganrif tan 1991 – heblaw cyfnod byrhoedlog 1918-21. O fewn ffiniau y Georgia presennol mae tiroedd a roddodd i'r Brenin David gan y Rwsiaid (ond bod nhw i gyd wedi dod dan Georgia yn y 12fed ganrif hefyd).

Remove ads

Hanes diweddar

Ar 9 Ebrill 1991 yn syth ar ôl datgymalu'r USSR, cyhoeddodd Georgia ei hannibyniaeth. Ar 26 Mai, 1991 etholwyd Zviad yn Arlywydd ond cododd coup d'état rhwng 22 Rhagfyr 1991 a 6 Ionawr 1992 gyda rhyfel cartref a barodd hyd at 1995. Dychwelodd Eduard Shevardnadze yn ei ôôl i Georgia yn 1992 ac etholwyd ef yn Arlywydd yn 1995.

Yn fuan wedyn dechreuodd dwy ranbarth o'r wlad: sef Abkhazia a De Ossetia gweryla â'r llywodraeth ganolog a throdd cweryl yn ymladd. Roedd Rwsia'n ochri gyda'r ddwy ranbarth a oedd yn ceisio eu hanibyniaeth eu hunain. Llwyddodd y ddwy i gael lled-annibyniaeth oddi wrth Georgia. Yn y rhyfel hyn, lladdwyd dros 250,000 o Georgiaid yn y ddwy ranbarth.

Yn 2003, yn dilyn twyll yn yr etholiadau, gwthiwyd Shevardnadze (a etholwyd yn 2000) o'r neilltu gan Chwyldro'r Rhosod ac etholwyd Mikheil Saakashvili yn ei le yn 2004.

Gan fod y wlad wedi ochri gyda Chechniya yn yr Ail Ryfel Chechen, dirywiodd ei pherthynas gyda Rwsia. Ar yr un pryd, dechreuodd yr Unol Daleithiau ei harfogi.

Ar 8 Awst 2008, rholiodd tanciau Rwsia i mewn i Dde Ossetia ac Abkhazia mewn Rhyfel De Ossetia gan ymosod o'r awyr ar fyddin Georgia. Ar 12 Awst cytunodd Arlywydd Rwsia, sef Dmitri Medvedev, ac Arlywydd Ffrainc, sef Nicolas Sarkozy, ar gynllun heddwch chwe phwynt. Cytunodd Arlywydd Georgia gyda'r chwe phwynt:

  1. Dim troi at drais na chymorth treisgar gwledydd eraill.
  2. Rhoi'r gorau i'r ymladd o'r ddwy ochor.
  3. Caniatáu cymorth dyngarol.
  4. Milwyr Georgia i symud yn ôl i'w gwersylloedd arferol.
  5. Milwyr Rwsia i symud yn ôl i ble roeddent cyn y gwrthdaro.
  6. Agor trafodaethau rhyngwladol i sicrhau heddwch a diogelwch pobol y ddwy ranbarth.
Remove ads

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads