Golff

gêm pêl-a-chlwb i ddau neu bedwar o chwareuwyr From Wikipedia, the free encyclopedia

Golff
Remove ads

Mae golff yn gêm pêl-a-chlwb i ddau neu bedwar o chwareuwyr sy'n cael ei chwarae ar gwrs golff. Credir bod y gamp yn dod o'r Alban yn wreiddiol. Mae pobl wedi bod yn chwarae golff o ryw fath ers y 15g. Erbyn heddiw mae'n un o'r gemau torfol mwyaf poblogaidd yn y byd gorllewinol, ymysg dynion a merched.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Y gollffwraig Americanaidd Morgan Pressel, 2009.
Thumb
Clwb Goll Llafair ym Muallt yn y 1910au.
Remove ads

Effaith amgylcheddol a chymdeithasol

Mae pryderon amgylcheddol wedi codi ynglŷn â defnydd tir am golff. Ymysg y pryderon penodol, yw effaith y gwrtaiith a chwynladdwyr a defnyddir, y maint o ddŵr sydd ei angen i gynnal y gwair, a dinistr gwlyptir neu ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol wrth adeiladu cyrsiau golff. Yn ogystal, mae ungnydedd di-gynhenid yn didymu bioamrywiaeth. Bu ymdrechion yn ddiweddar i leihau'r defnydd o ddŵr a chemegion wrth gynnal cyrsiau golff, ond erys lawer o bryderon.

Mewn rhai rhannau o'r byd, mae ymdrechion i adeiladu cyrsiau golff wedi arwain at wrthdystio sylweddol, ynghyd â fandaliaeth a thrais o'r ddwy ochr. Er fod golff yn mater bach o'i gymharu â materion moesol eraill yn ymwneud â thir, mae iddo arwyddocád arbennig i lawer, gan iddo fod yn gysylltiedig â chyfoeth ac imperialaeth gorllewinol. Mae gwrthsefyll ehangiad golff yn un o amcanion mudiadau diwygiad-tir yn y Philipinau ac Indonesia.

Stacy Prammanasudh yn ymarefr yn 2008
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads