Graz

bwrdeistref, Awstria From Wikipedia, the free encyclopedia

Graz
Remove ads

Ail ddinas Awstria o ran maint a phrifddinas talaith Styria yn ne'r wlad yw Graz. Roedd poblogaeth y ddinas yn 2016 yn 280,200.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Saif y ddinas ar afon Mur, wrth droed yr Alpau. Yn 2003, roedd Graz yn un o ddwy Brifddinas Ddiwylliannol Ewrop. Ceir nifer fawr o adeiladau o'r Canol Oesoedd yng nghanol y ddinas, a chyhoeddwyd yr ardal yma yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1999. Mae hefyd yn ddinas ddiwydiannol bwysig, a cheir pedair prifysgol yma, gyda 40,000 o fyfyrwyr.

Symbol y ddinas yw'r Uhrturm am Schlossberg, tŵr cloc sydd i'w weld o bron bobman yn y ddinas. Caned y cyfansoddwr Robert Stolz a'r canwr Monika Martin yn Graz, a magwyd Arnold Schwarzenegger yn yr ardal.

Thumb
Tŵr y Cloc, Graz
Thumb
Graz, Georg Matthäus Vischer (1670)
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads