Hadrian

ymerawdwr Rhufain hynafol (76-138) From Wikipedia, the free encyclopedia

Hadrian
Remove ads

Caesar Traianus Hadrianus Augustus neu Hadrian (24 Ionawr 76 - 10 Gorffennaf 138) oedd Ymerawdwr Rhufain o 11 Awst 117 hyd ei farwolaeth. Ganwyd Publius Aelius Traianus.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Ganed Hadrian yn nhref Italica, gerllaw Sevilla yn ne Sbaen. roedd yn berthynas i'r ymerawdwr Trajan, a phenodwyd ef yn rhaglaw talaith Syria pan oedd Trajan yn ymladd yn erbyn y Daciaid. Wedi i Trajan farw cyhoeddodd gwraig Trajan, Pompeia Plotina fod yr ymerawdwr wedi mabwysiadu Hadrian fel mab cyn marw ac wedi ei ddewis fel olynydd. Nid oedd pawb yn credu hyn, ond daeth Hadrian yn ymerawdwr.

Thumb
Mur Hadrian

Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r ymerodraeth a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn Dacia. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel Mur Hadrian ym Mhrydain. Ef hefyd a adeiladodd y Pantheon yn Rhufain.

Fel ymerawdwr, treuliodd Hadrian lawer o'i amser yn teithio o amgylch yr ymerodraeth, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladu mewn gwahanol rannau ohoni. Roedd yn hoff iawn o ddiwylliant Groeg, ac adeiladodd deml enfawr i Zews yn Athen. Ceisiodd hefyd ail-adeiladu Jeriwsalem fel dinas Roegaidd, ond arweiniodd hyn at wrthryfel gan yr Iddewon dan arweiniad Simon bar Kochba.

Nid oedd gan Hadrian blant, a dewisodd Antoninus Pius fel ei olynydd, ar yr amod ei fod ef yn dewis perthynas pell i Hadrian, Marcus Aurelius Verus, fel ei olynydd yntau. Yn ddiweddarach daeth Marcus Aurelius Verus yn ymerawdwr dan yr enw Marcus Aurelius.

Remove ads

Gweler hefyd

Rhagflaenydd:
Trajan
Ymerawdwr Rhufain
11 Awst 11710 Gorffennaf 138
Olynydd:
Antoninus Pius
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads