Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1
ffilm ffantasi a seiliwyd ar nofel gan David Yates a gyhoeddwyd yn 2010 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ffilm ffantasi epig o 2010 a gyfarwyddwyd gan David Yates ac a ysgrifennwyd gan Steve Kloves ydy Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 ("Harri Potter a'r Tri Pheth Marwol – Rhan 1"). Seiliwyd y ffilm ar y nofel o'r un enw gan J. K. Rowling. Cynhyrchwyd y ffilm gan Rowling ynghyd â David Heyman a David Barron. Dyma'r seithfed ffilm yn y gyfres, a rennir yn ddwy ran. Adrodda'r ffilm hanes Harry Potter wrth iddo geisio darganfod a dinistrio cyfrinach Lord Voldemort o anfarwoldeb sef y Horcruxiaid. Mae'r ffilm yn serennu Daniel Radcliffe fel Harry Potter, ynghyd â Rupert Grint ac Emma Watson fel ffrindiau gorau Harry, Ron Weasley a Hermione Granger. Mae'r ffilm hefyd yn serennu Rhys Ifans, Ralph Fiennes, Helena Bonham Carter, ac Alan Rickman.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads