Heliwm
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Nwy ysgafn di-liw yw heliwm, elfen gemegol yn nhabl cyfnodol gan symbol He
a rhif 2. Mae'n un o'r nwyon nobl ac yn elfen anadweithiol oherwydd bod ganddo blisgyn falens llawn. Gan ei fod yn anadweithiol a llai dwys nag aer defnyddir heliwm mewn balwnau tywydd. Er bo hydrogen yn nwy llai dwys, nid yw'n addas gan ei fod mor adweithiol a fflamadwy, priodweddau a bu arwain at ffrwydrad y llong awyr Hindenberg.
Mae'r enw yn dod o'r gair Groeg am "haul", sef ἥλιος (helios), achos y darganfuwyd e ar yr haul drwy ei sbectrwm, cyn iddo fo gael ei ddarganfod ar y ddaear. Fe'i ffurfir yng nghanol yr haul pan ydy hydrogen yn adweithio.
Remove ads
Cyfeiradau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads