Heracles
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Heracles (Hen Roeg: Ἡρακλῆς), Hercules i'r Rhufeiniaid, hen ffurf Cymraeg Ercwlff, yn gymeriad mewn mytholeg Roeg. Roedd yn fab i Zews ac Alcmene, ac roedd nifer o linachau brenhinol yn ei hawlio fel cyndad.
Roedd Heracles yn nodedig am ei gryfder eithriadol a'i ddewrder, ond roedd y dduwies Hera, gwraig Zews, yn ei gasàu. Pan oedd Heracles yn Thebai, priododd Megara, merch y brenin Creon. Fodd bynnag gwnaeth Hera ef yn wallgof, a lladdodd Megara a'u plant. Pan sylweddolodd beth yr oedd wedi ei wneud aeth at Oracl Delphi am gyngor, a than ddylanwad Hera gyrrodd yr oracl ef i wasanaethu'r brenin Eurystheus am ddeuddeg mlynedd a gwneud unrhyw dasg y byddai'r brenin yn ei orchymyn iddo.

Rhoddwyd deuddeg tasg iddo i gyd. Yn ôl Apollodorus (2.5.1-2.5.12) roeddynt yn y drefn ganlynol:
- Lladd Llew Nemea
- Dinistrio Hydra Lernaea
- Dal Ewig Ceryneia
- Dal Baedd Erymanthia
- Glanhau stablau Augea
- Lladd Adar Stymphalia
- Dal Tarw Creta
- Casglu Cesyg Diomedes
- Dwyn Gwregys Hippolyte
- Gyrru Gwartheg Geryon
- Dwyn Afalau yr Hesperides
- Cymeryd Serberws yn garcharor
Remove ads
Gweler hefyd
- Yr Ercwlff Synfawr, sef Leigh Richmond Roose, pêl-droediwr o Gymru[1]
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
