Hispaniola

From Wikipedia, the free encyclopedia

Hispaniola
Remove ads

Ynys yn y Caribî yw Hispaniola. Hi yw ynys ail-fwyaf y Caribî ar ôl Ciwba, gyda phoblogaeth o tua 17.5 miliwn. Mae wedi ei rhannu rhwng dwy wlad: Haiti yn rhan orllewinol yr ynys a Gweriniaeth Dominica yn ffurfio'r canol a'r dwyrain.

Thumb
Lleoliad Hispaniola
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Yr enw brodorol ar yr ynys oedd Quisqueya ("mam yr holl wledydd"). Cyrhaeddodd Christopher Columbus yma ar 5 Rhagfyr 1492, ac enwi'r ynys yn La Española ("Sbaen fechan"), "Hispaniola yn Lladin. Yn 1697, ildiodd Sbaen draean gorllewinol yr ynys i Ffrainc. Galwyd y rhan yma yn Saint-Domingue, a daeth yn Haiti yn ddiweddarach.

Mae arwynebedd Hispaniola yn 76.480 km². Copa uchaf yr ynys yw Pico Duarte, 3,087 medr o uchder.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads