Hmong
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Grŵp ethnig Asiaidd yw'r Hmong sy'n tarddu o ardaloedd mynyddig Tsieina, Fietnam, Laos, a Gwlad Tai. Is-grŵp o'r Miao o dde Tsieina ydynt. Cychwynodd ymfudiad graddol i'r de yn y 18g o ganlyniad i aflonyddwch gwleidyddol ac i chwilio am dir âr gwell yn Indo-Tsieina.
Ymladdodd nifer o Hmong yn erbyn y Pathet Lao gomiwnyddol yn ystod Rhyfel Cartref Laos. Daethant yn darged am ddial wedi buddugoliaeth y Pathet Lao ym 1975, a bu degoedd o filoedd o Hmong yn ffoi i Wlad Tai. Ymfudodd miloedd ohonynt i wledydd y Gorllewin ers y 1970au, yn bennaf yr Unol Daleithiau ond hefyd Awstralia, Ffrainc, Guyane, Canada, a gwledydd De America. Cafodd eraill eu dychwelyd i Laos gan raglenni gyda chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig. Mae tua 8000 o ffoaduriaid Hmong yn parhau i fyw yng Ngwlad Tai.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
