Iaith swyddogol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Iaith swyddogol yw iaith sy'n cael ei defnyddio trwy ddeddf gwlad mewn dogfennau swyddogol.
Yng Nghymru, mae gan y Gymraeg statws swyddogol de jure ers Mesur y Gymraeg 2011. Does gan y Deyrnas Unedig ddim iaith swyddogol fel y cyfryw, ond gellir ystyried y Saesneg yn iaith swyddogol de facto.
Mae tair gwlad (yr Unol Daleithiau, Mecsico ac Awstralia) heb unrhyw iaith swyddogol de jure. Fodd bynnag, yn yr Unol Daleithiau ac Awstralia, Saesneg yw'r iaith swyddogol de facto ar lefel genedlaethol; ac ym Mecsico, Sbaeneg yw'r iaith swyddogol de facto.
Remove ads
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads