Is-goch
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ymbelydredd electromagnetig ydyw golau is-goch (neu IR, sef infrared yn Saesneg) gyda thonfedd hirach na golau gweledol. Coch ydy'r lliw gweledol sydd â'r donfedd hiraf. Mae ei donfedd rhwng 750 nm ac 1 mm. Darganfuwyd y math hwn o ymbelydredd gan William Herschel, wrth iddo fesur tymheredd golau'r haul trwy prism.

Defnyddir lluniau is-goch yn helaeth, yn enwedig gan fyddinoedd y byd. Fe'i defnyddir i weld yn y nos, radio pellter byr, i ganfod tymheredd o bell, i gynhesu'r corff mewn sauna isgoch ac mewn seryddiaeth i ganfod tymheredd planedau a gwrthrychau eraill megis cymylau moleciwlar.
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
