Jimmy Carter

39ain arlywydd Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Jimmy Carter
Remove ads

39ain Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1977 a 1981 oedd James Earl "Jimmy" Carter, Jr. (1 Hydref 192429 Rhagfyr 2024).[1] Yn 2002 enillodd Wobr Heddwch Nobel am ei waith dros hawliau dynol.

Ffeithiau sydyn Is-Arlywydd(ion), Rhagflaenydd ...

Cafodd Carter ei eni yn nhalaith Georgia. Bu farw yn ei dref enedigol, Plains.[2] Enillodd Carter Gwobr Heddwch Nobel yn 2002.[1]

Remove ads

Perthynas â Chymru

Roedd Jimmy Carter yn hoff iawn o waith Dylan Thomas a gwnaeth sawl ymweliad â Chymru. Ym Mehefin 1986, daeth ar wyliau i Dregaron, a mynd i bysgota gyda’r arbenigwr pysgota, Moc Morgan a’i fab Hywel.[3]. Ym 1995, daeth Carter i Abertawe i agor Canolfan Dylan Thomas, ac yn ddiweddarach defnyddiwyd ei lais mewn taith glyweled yn man geni Thomas.[4]

Llyfryddiaeth

Ymhlith y llyfrau a gyhoeddodd y mae Palestine: Peace Not Apartheid.

Bywyd personol

Roedd yn briod a Rosalynn am 77 mlynedd cyn ei marwolaeth yn Nhachwedd 2023. Bu farw yntau yn 100 mlwydd oed ar 29 Rhagfyr 2024. Roedd ganddynt bedwar o blant.[5] Dywedodd ei fab Chip bod Jimmy Carter yn arwr i bawb sy'n gwerthfawrogi heddwch.[2] Dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, bod Carter yn “ddyn rhyfeddol”.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads