John Dafydd

emynwyr From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Emynydd Cymraeg o Sir Gaerfyrddin yn y 18g oedd John Dafydd (1727 - 1783). Roedd ei frawd Morgan Dafydd (m. 1762) yn emynydd o fri hefyd.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Fel ei frawd, crydd oedd John Dafydd. Treuliodd ran gyntaf ei oes ym Medw-gleision, Caeo, lle roedd yn aelod o'r Eglwys Fedyddiol. Symudodd wedyn i fyw yn Nhir-y-bedw ym mhlwyf Cil-y-cwm, Sir Gaerfyrddin.

Ceir bump o emynau John Dafydd yn y gyfrol Aleluia (1747) gan William Williams Pantycelyn ac erys ei emyn 'Newyddion braf a ddaeth i'n bro' yn boblogaidd heddiw.

Remove ads

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads