John Edward Lloyd

hanesydd, a golygydd cyntaf y Bywgraffiadur Cymreig. From Wikipedia, the free encyclopedia

John Edward Lloyd
Remove ads

Hanesydd a golygydd o Gymru oedd Syr John Edward Lloyd (oedd yn ysgrifennu fel J E Lloyd) (5 Mai 186120 Mehefin 1947), a'r hanesydd cyntaf i osod hanes cynnar Cymru ar seiliau cadarn.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Bywgraffiad

Ganed ef yn Lerpwl i rieni o Gymru, a bu'n fyfyriwr yn ngholeg Aberystwyth ac yna yng Ngholeg Lincoln, Prifysgol Rhydychen. Yn Rhydychen daeth i gysylltiad a Chymry eraill megis Owen Morgan Edwards, a bu ganddo ran flaenllaw yn y mudiad Cymru Fydd. Daeth yn ddarlithydd ar hanes Cymru yn Aberystwyth cyn dod yn bennaeth cyntaf Adran Hanes Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ystryrir ei lyfr A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (1911) yn glasur, a hyd yn oed bron ganrif ar ôl dyddiad ei gyhoeddi mae'n parhau yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer hanes y cyfnod.

Ymhlith ei lyfrau eraill mae hanes gwrthryfel Owain Glyndŵr, Owen Glendower (1931). Ef oedd golygydd Y Bywgraffiadur Cymreig, er na chyhoeddwyd y gyfrol tan ar ôl ei farw. Gwnaed ef yn farchog yn 1934. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Tysilio ar Ynys Dysilio ger Porthaethwy.

Cyfansoddodd ei gyfaill Saunders Lewis farwnad gofiadwy iddo sydd ymhlith y mwyaf nodedig o gerddi Cymraeg yr ugeinfed ganrif.

Remove ads

Llyfryddiaeth

Gwaith J.E. Lloyd (detholiad)
Astudiaethau

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads