Johnny Hallyday

actor a chyfansoddwr a aned yn 1943 From Wikipedia, the free encyclopedia

Johnny Hallyday
Remove ads

Actor a brenin roc a rôl Ffrainc oedd Johnny Hallyday (15 Mehefin 19436 Rhagfyr 2017). Ei enw bedydd oedd Jean-Philippe Smet. Daeth ei deulu o Wlad Belg a fe'i anwyd ym Mharis. Cymerodd Johnny ddinesyddiaeth Ffrengig yn 1961. Yn Ionawr 2006 ceisiodd ailgymryd dinesyddiaeth Gwlad Belg ond ni dderbyniwyd ei gais.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Gwerthodd Hallyday dros 100 miliwn record yn fyd-eang ac enillodd 18 albwm platinwm. Fe ddechreuodd fel actor o dan ei enw iawn, ond yn 1960 fe wnaeth ei record gyntaf dan yr enw "Johnny Hallyday". Ei record boblogaidd gyntaf oedd y gân roc a rôl "Souvenirs, souvenirs". Fe'i dilynodd yn 1961 gyda "Viens danser le twist", "Elle est terrible", "L'idole des jeunes" a "Retiens la nuit".

Remove ads

Ffilmiau

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads