Jonathan Swift

dychanwr ac ysgrifwr Eingl-Wyddelig (1667-1745) From Wikipedia, the free encyclopedia

Jonathan Swift
Remove ads

Awdur o'r Iwerddon oedd Jonathan Swift (30 Tachwedd 166719 Hydref 1745), a aned yn Nulyn.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Er iddo gael ei eni yn Nulyn ac iddo rannu ei amser rhwng y ddinas honno a Llundain, roedd rhieni Swift yn Saeson o Swydd Efrog ac fe'i hawlir weithiau fel awdur gan y genedl honno.

Cafodd Swift ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Yn sgîl yr adwaith yn Iwerddon i Chwyldro 1688 aeth i Lundain lle daeth yn ysgrifennydd i Sir William Temple. Yn nghartref Temple cyfarfu Swift â "Stella" (Hester Johnson). Yno hefyd yr ysgrifennodd ei ddychan mwyaf gwreiddiol, A Tale of a Tub (1704).

Fe'i ordeiniwyd yn 1694 a rhannodd ei amser rhwng gofalu am ei ystad yn Iwerddon a mynychu siopa coffi a chylchoedd llenyddol Llundain. Yn 1713 cafodd ei apwyntio'n ddeon eglwys St Padrig, Dulyn. Yn 1726 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf Gulliver's Travels, dychan ar wleidyddiaeth a syniadaeth ei ddydd yn rhith mordaith ffantasïol i wledydd pell neu ddychmygol. Bu farw yn 1745.

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • A Tale of a Tub (1704)
  • Battle of the Books
  • Journal to Stella (1710)
  • Gulliver's Travels (1726)


Baner Gweriniaeth IwerddonEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads