Lhasa

dinas, Tsieina From Wikipedia, the free encyclopedia

Lhasa
Remove ads

Lhasa yw prifddinas draddodiadol Tibet a phrifddinas Talaith Ymreolaethol Tibet dan lywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina. Y ddinas yw canolfan draddodiadol y Dalai Lama ac mae Bwdhaeth Tibet yn ei hystyried y ddinas fwyaf sanctaidd yn Tibet.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Mae'r ddinas yn un o'r rhai uchaf yn y byd, tua 3,650 m (11,975 troedfedd). Mae'r boblogaeth tua 255,000.

Ymhlith yr adeiladau o ddiddordeb mae Palas Potala, Teml Jokhang a Mynachlog Sera.

Yn 2006 agorwyd y rheilffordd uchaf yn y byd yn cysylltu Lhasa a Beijing. Mae'n ddatblygiad dadleuol, gan fod nifer o Dibetwyr yn gweld bygythiad o gynyddu'r mewnlifiad o bobl Han i Dibet, proses sy'n araf droi'r Tibetwyr yn lleiafrif yn eu gwlad eu hunain.

Eginyn erthygl sydd uchod am Dibet. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads