Llenyddiaeth doethineb
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Genre lenyddol ddidactig a flodeuai yn yr Hen Ddwyrain Agos yw llenyddiaeth doethineb.[1] Yn hanesyddol, defnyddiwyd y term mewn cyd-destunau Iddewig a Christnogol i ddynodi rhai o lyfrau'r Beibl sydd yn ymwneud â hokmâ (doethineb) a sydd yn rhannu themâu tebyg. Mabwysiadwyd y term gan Eifftolegwyr ac Asyriolegwyr i ddisgrifio testunau hynafol eraill.[2]
Llenyddiaeth Iddewig a Christnogol
Yn y Beibl Hebraeg, neu'r Hen Destament yn y Beibl Cristnogol, mae tri llyfr a ystyrir yn enghreifftiau o lenyddiaeth doethineb: Llyfr y Diarhebion, Llyfr Job, a Llyfr y Pregethwr. Yn ôl trefn y Ketuvim, llyfrau barddonol ydy Diarhebion a Job ac un o'r Megillot ("sgroliau") yw Pregethwr. Yn ôl y traddodiad Iddewig, priodolir Diarhebion a Phregethwr i'r Brenin Solomon. Ystyrir rhai o'r Salmau, a briodolir hefyd i Solomon, yn llenyddiaeth doethineb.
Ymhlith apocryffa'r Hen Destament, a gynhwysir yng nghyfieithiad y Deg a Thrigain, mae Doethineb Solomon a Llyfr Eclesiasticus (neu Ddoethineb Iesu fab Sirach), dwy esiampl arall o lenyddiaeth doethineb Feiblaidd. Ystyrir y rheiny yn destunau canonaidd gan yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, ond nid gan y Protestaniaid. Mae sawl enghraifft o lenyddiaeth doethineb yn y ffugysgrifeniadau, gan gynnwys Ahiqar, Trydydd a Phedwerydd Llyfrau'r Macabeaid, Gwirebau'r Ffug-Phocylides (gwirebau Iddewig a briodolir i'r bardd Ïonaidd Phocylides, c. 50 CC–100 OC), a Brawddegau Menander o Syria.
Cynhwysir llenyddiaeth doethineb hefyd yn yr Haggada, traddodiad traethiadol y Talmwd, a chafwyd hyd i ragor o destunau o'r fath ymhlith Sgroliau'r Môr Marw.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads