Llaeth

hylif gwyn a gynhyrchir gan famolion benyw From Wikipedia, the free encyclopedia

Llaeth
Remove ads

Mae mamalau yn cynhyrchu llaeth (neu'n y Gogledd llefrith) i fwydo eu rhai bach. Mae llaeth yn cynnwys llawer o faetholynnau sydd yn addas i anifeiliaid bach sydd ddim yn gallu treulio bwyd caled.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Babi'n sugno llaeth ei fam
Thumb
Myn yn sugno llaeth ei fam

Mae llaeth pob rhywogaeth yn arbennig ac yn addas i'w anghenion. Er enghraifft mae llaeth merch yn cynnwys llawer o lactos, math o siwgr, ond does dim cymaint o siwgr ond llawer o brotein mewn llaeth buwch. Mae llaeth buwch yn cynnwys braster llaeth (3.5 %), soledau llaeth (8.5 %) a dŵr (88 %). Y protein pennaf yw casein.

Mae pobl yn defnyddio llaeth rhai anifeiliaid, yn bennaf llaeth buwch, gafr, ceffyl, dafad a byfflo dŵr, i wneud hufen, menyn, caws, iogwrt a hufen iâ.

Remove ads

Cofnodion Cymreig

Taliadau'r Bwrdd Marchnata Llaeth: cynnyrch llaeth Trosglwyn, Carmel, 1950au cynnar

Tudalennau o lyfr cownts buches laeth tua 8 buwch ar fferm fynyddig Trosglwyn yng Ngharmel (Arfon). Mae'r ddogfen yn un hanesyddol bellach - mae gwartheg blith (dairy herds) yn gyfyngedig i ffermydd yr iseldir erbyn hyn (2025) ac yn llawer mwy o faint. Pwy glywodd am fuches laeth yn ucheldir Arfon heddiw?

Dyma lunio graff o'r data i ddangos enillion gwerthu llefrith i'r Bwrdd Marchnata Llaeth, Trosglwyn, Carmel 1952-5:

Thumb
Graff wedi'i seilio ar gyfrif o daliadau misol BMLl am laeth o dyddyn yng Ngharmel, Arfon 1952-55

Beth sydd i gyfrif am y taliadau mwy ddechrau'r flwyddyn?

  • Roedd llawer o fuchesau'n lloia yn y gwanwyn er mwyn manteisio ar borfa i gynhyrchu llaeth yn hytrach na gorfod prynu dwysfwyd. Felly roedd llawer o wartheg yn hesb yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn a byddai'r MMB [Milk Marketing Board] yn talu mwy er mwyn perswadio digon o ffermwyr igynhyrchu llaeth pryd hynny a sicrhau cyflenwad digonol. – Jackie Wilmington
  • Wedi fy magu ar dyddyn 18 acer hefo buches 7 buwch yn y '60 degau a'r '70 degau cynnar. Nhad yn gorfod rhoi gorau i gynhyrchu llaeth tua 1975 wrth i'r casgliad caniau llaeth ddod i ben a gorfodi cynhyrchwyr i ddefnyddio "bulk tank". Roedd y ffordd acw yn rhy gul i dancer llaeth. Tarw potel i reoli lloia i sicrhau llaeth drwy'r flwyddyn. Tyfu ychydig o geirch a mangs (mangolds) yn ogystal a gwair i borthi dros y gaeaf. Prynu blawd i fwydo'n ddyddiol hefyd. Taliad yn dibynnu ar ansawdd y llaeth, ac fe brynwyd buwch Guernsey i gynyddu'r hufen yn y llaeth. Dyddiau difyr. Dim modd gwneud elw o dyddyn 18 acer bellach gwaetha'r modd. – Greta Hughes (Penllŷn)
  • Yn y pumdegau mi dybiwn i fod llai o lefrith o gwmpas dros y gaeaf, gyda gwartheg yn dirwyn i ben a Ilaethiad blynyddol, gan arwain at gynnydd yn y galw - supply and demand - felly, gyda'r maeth hefyd yn salach iddynt dros y gaeaf. Digon o borfa wedyn i'r gwartheg newydd loi (sic. lloia) o Fai i Awst, mwy o gyflenwad yn gwasgu'r pris i lawr... felna fu hi erioed a felna ma hi wrth ddelio â chyfnewidioldeb y farchnad! Erbyn heddiw, cysondeb yw popeth, ac mae proseswyr yn defnyddio cymhellion pris i geisio annog cyflenwad gwastad, dwn iddim a fydda hynny'n wir adeg hynny, ond roedd yna'n sicr gadwyn o gyflogaeth yn dibynnu ar gyflenwad dibynadwy o laeth i'w cadw'n brysur yn yr amrywiol laethdai bach fydda'n dotio'r wlad adeg hynny, fydda'n cyflogi llawer o wragedd ffarm, gyrrwyr loriau'n casglu churns o standiau Ilaeth ag ati. Roedd y ffatri laeth leol yn dilyn yr ail ryfel byd yn cynnig incwm wythnosol gweddol gyson i lawer ffarmwr am y tro cynta, gyda'r Bwrdd Marchnata'n gyfrifol am hyrwyddo gwerthiant. Mae'n ddifyr gweld cymaint o gynnydd sydd ym mhris llaeth yn nhair blynedd y graff! – Alun Elidir[1]
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads