Llywelyn ap Gruffudd Fychan
tirfeddiannwr a chefnogwr gwrthryfel Glyndŵr (1341-1401) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sgwïer o Gaeo, Sir Gaerfyrddin, oedd Llywelyn ap Gruffudd Fychan (1341? - 9 Hydref 1401). Roedd yn un o arweinwyr lleol Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn y Deheubarth; cafodd ei ddienyddio am ei ran yn y gwrthryfel hwnnw.
Remove ads
Hanes
Cynlluniodd fagl i dwyllo lluoedd Seisnig oedd yn chwilio am Owain Glyn Dŵr yn 1401. Cynorthwyodd y twyll Owain i ddianc. Fel cosb am ei weithredoedd, gorchmynodd Harri IV iddo gael ei ddienyddio yn Llanymddyfri yn Hydref o'r un flwyddyn.
Cof
Codwyd cerflun i'w goffáu ger Castell Llanymddyfri yn 2001, ar chwechan mlwyddiant ei ddienyddiad.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads