Llywelyn ap Madog
(1150-1160) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Llywelyn ap Madog (m. 1160) oedd mab hynaf ac etifedd y tywysog Madog ap Maredudd o Bowys.
- Gweler hefyd Llywelyn ap Madog, Esgob Llanelwy.
Bywgraffiad
Ychydig iawn a wyddys amadano. Bu farw mewn brwydr yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1160.
Ceir dwy gerdd o foliant i Lywelyn ap Madog a briodolir i Llywarch y Nam a Llywarch Llaety (fl. 1160 ill dau). Cerdd i ddiolch i Lywelyn ap Madog am rodd o gŵn hela mewn cyfres o englynion yw'r testun a briodolir i Lywarch y Nam. Mae cerdd Llywarch Llaety yn anfon march i ofyn cyfres o gwestiynau rhethregol am filwriaeth Llywelyn. Yn anffodus nid yw'r cerddi yn ychwanegu llawer at ein gwybodaeth am Lywelyn.
Remove ads
Llyfryddiaeth
- Nerys Ann Jones (gol.), "Gwaith Llywarch y Nam" a "Gwaith Llywarch Llaety", yn Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif, gol. Kathleen A. Bramley et al., Cyfres Beirdd y Tywysogion (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads