Lewys Morgannwg
Pencerdd y Tair Talaith" ac un o brif feirdd hanes Morgannwg From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Lewys Morgannwg oedd enw barddol y bardd Cymraeg proffesiynol Llywelyn ap Rhisiart, (fl. 1520-1565). Roedd yn ‘Bencerdd y Tair Talaith,’ ac yn un o feirdd mwyaf y 16g. Canai Lewys yn nhai Syr William Griffith o Benrhyn a noddwyr eraill. Roedd hefyd yn athro barddol; un o'i ddisgyblion mwyaf blaengar oedd Gruffudd Hiraethog.[1]
Remove ads
Bywgraffiad
Roedd Lewys Morgannwg yn frodor o Dir Iarll ym Morgannwg. Mae'n bosibl fod ganddo dŷ yn Llanilltud Fawr. Roedd ei dad Rhisiart ap Rhys yn fardd proffesiynol hefyd, ac mae'n debyg iddo gael ei addysg barddol gynnar ganddo. Yn ddiweddarach cafodd ei hyfforddi gan Tudur Aled, bardd mwyaf yr oes. Cafodd nawdd gan Syr Edward Stradling.[1]
Treuliodd Lewys ran helaeth ei oes yn clera ledled Cymru. Cafodd ei wneud yn 'Bencerdd y Tair Talaith', pennaeth Cyfundrefn y Beirdd (1530-1560). Mae dros 100 o'i gerddi yn y llawysgrifau.[1]
Remove ads
Llyfryddiaeth
- Gwaith Lewys Morgannwg, gol. Cynfael Lake ac Ann Parry Owen, 2 gyfrol (Aberystwyth, 2005)
Cyfeiriadau
Dolen allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads