Louis Dduwiol

brenin y Ffrancod From Wikipedia, the free encyclopedia

Louis Dduwiol
Remove ads

Roedd Louis Dduwiol (Mehefin/Awst 778 - 23 Mehefin 840) yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a brenin Aquitania.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Louis oedd trydydd mab Siarlymaen, a bwriad gwreiddiol y tad oedd rhannu'r ymerodraeth rhyngddynt. Fodd bynnag gwrthryfelodd un mab yn erbyn ei dad, a bu'r ddau arall farw o flaen Siarlymaen, felly etifeddodd Louis yr ymerodraeth i gyd. Bu ganddo bedwar mab a nifer o ferched. O'i wraig gyntaf, Ermenganda de Hesbay, cafodd dri mab, Lothair I a ddaeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Louis yr Almaenwr a Pipin o Aquitania. O'i ail wraig, Judith, merch Welf, cafodd fab arall, Siarl Foel.

Yn wreiddiol bwriadai Louis rannu'r ymerodraeth rhwng y tri mab hynaf, ond yn nes ymlaen dymunai ychwanegu'r pedwerydd. Gwrthryfelodd y meibion hynaf yn erbyn eu tad, a buont yn ymladd am eu cyfran o'r ymerodraeth. Bu farw Pipin o Aquitania yn 838, ac yn ddiweddarach diweddwyd y brwydro rhwng y tri arall gan Gytundeb Verdun.

Rhagflaenydd:
Siarl I (Siarlymaen)
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
814840
Olynydd:
Lothair I
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads