Lyon
endid tiriogaethol gweinyddol, Ffrainc From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas a commune yn ne-ddwyrain Ffrainc yw Lyon. Saif ger y fangre lle mae afonydd Rhône a Saône yn cwrdd. Mae'n brifddinas département Rhône a région Auvergne-Rhône-Alpes. Ar ôl Paris a Marseilles, Lyon yw'r drydedd ddinas fwyaf yn Ffrainc o ran poblogaeth, ac ail ddinas weinyddol y wlad.
Gelwir trigolion y ddinas yn Lyonnais.
Remove ads
Hanes
Mae gan Lyon hanes hir. Sefydlwyd hi gan y Celtiaid. Lugdunum (sef 'Dinas Lugh') oedd ei henw yng nghyfnod y Rhufeiniaid: roedd hi'n brifddinas talaith Gallia Lugdunensis yng Ngâl.
Adeiladau a chofadeiladau
- Eglwys Gadeiriol Saint-Jean
- Eglwys Notre-Dame de Fourvière
- Gare de Lyon Saint-Exupéry
- Place Bellecour
- Tŵr Crédit Lyonnais
- Tŵr Incity
- Tŵr Oxygène
Enwogion
- Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus (10CC-OC54), Ymerawdr Rhufeinig
- Marcus Aurelius Antoninus Basianus (Caracalla) (186-217), Ymerawdr Rhufeinig
- Philippe V (1292-1322), brenin Ffrainc
- André-Marie Ampère (1775-1836), ffisegydd
- Antoine de Saint-Exupéry (1900-1944), awdur
- Maurice Jarre (1924-2009), cyfansoddwr
- Jean Michel Jarre (g. 1948), cerddor
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) Gwefan Swyddogol Lyon
Dinasoedd Ffrainc
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

