Maen Madog
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Carreg Gristionogol gynnar gydag arysgrif Ladin arni yw Maen Madog, sy'n sefyll ger llwybr hen ffordd Rufeinig ger Ystradfellte, de Powys. cyfeiriad grid SN918157
Remove ads
Disgrifiad a hanes
Colofn dal denau o hen dywodfaen coch yw Maen Madog. Mae'n sefyll wrth ymyl ffordd Rufeinig a adnabyddir yn lleol fel "Sarn Helen". Ar ei ymyl de-orllewinol ceir arysgrif Ladin wedi'i cherfio ar ei hyd sy'n darllen:
- DERVAC—FILIUS
- IUST—(H)IC IACIT
Sef:
- Carreg Dervacus mab Justus.
- Yma mae'n gorwedd.
Digon amrwd yw'r gwaith cerfio gyda rhai llythrennau wedi eu gosod o'r chwith, sy'n awgrymu fod y saer maen yn anghyfarwydd ag ysgrifen Ladin.
Mae'n debyg mai cofgolofn bersonol ydyw, yn dyddio o rywbryd yn y cyfnod is-Rufeinig (ceir gwersyll Rhufeinig gerllaw) neu'r Oesoedd Canol Cynnar pan roedd y rhan yma o'r wlad yn rhan o Deyrnas Brycheiniog.
Cafodd y garreg ei symud tua 5 medr o'i safle gwreiddiol yn y 19g a'i gosod ar blatfform o gerrig. Ni chafwyd bedd Dervacus ac mae'n bosibl felly fod y garreg yn gofgolofn yn unig yn hytrach na beddfaen.
Remove ads
Ffynhonnell
- Helen Burnham, A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys (Llundain: HMSO, 1995)
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads