Man Ray

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Philadelphia yn 1890 From Wikipedia, the free encyclopedia

Man Ray
Remove ads

Arlunydd o'r Unol Daleithiau a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yn Ffrainc lle daeth yn ffigwr amlwg ym mudiadau Swrealaeth a Dada oedd Man Ray (Emmanuel Rudzitzky, 27 Awst 189018 Tachwedd 1976).

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...

Ganed Man Ray yn Philadelphia, Pennsylvania ac fe'i magwyd yn ardal Brooklyn, Dinas Efrog Newydd. Mewnfudwyr diweddar o Rwsia, o dras Iddewig, oedd ei rieni, Symudodd i fyw a gweithio yn Ffrainc pan oedd y mudiad Swrealaeth ar ei anterth yn Ewrop. Yn artist a arddelai Fodernaeth, cyfranodd yn sylweddol i waith y Swrealwyr a'r Dadawyr, er na fu erioed yn aelod ffurfiol o'r mudiadau hynny. Adnabyddir Man Ray yn bennaf fel ffotograffydd avant-garde, ond cynhyrchodd weithiau pwysig mewn sawl cyfrwng ac roedd yn ystyried ei hun yn baentiwr yn bennaf.

Yn 1999, cafodd ei enwi gan cylchgrawn ARTnews fel un o'r 25 artistiaid mwyaf dylanwadol yr 20g. Yn ogystal â ffotograffiaeth ac arlunio, arbrofodd â ffilm, cerfluniaeth, collage, a drama arloesol.

Yn ystod ei arosiad hir yn ninas Paris, o 1921 hyd 1940, daeth i adnabod rhai o artistiaid mwyaf y cyfnod, yn cynnwys Salvador Dalí a Marcel Duchamp. Yn ei stiwdio ym Montparnasse, tynnodd bortreadau cofiadwy o lenorion ac artistiad enwog fel James Joyce, Gertrude Stein, Jean Cocteau ac Antonin Artaud.

Thumb
Man Ray gyda Salvador Dalí ym Mharis yn 1934
Ffeithiau sydyn
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads