Édouard Manet
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Arlunydd o Ffrancwr oedd Édouard Manet (23 Ionawr 1832 - 30 Ebrill 1883), sy'n adnabyddus fel un o'r enwocaf o'r Argraffiadwyr (Ffraneg: Impressionnistes). Bu'n un o'r arlunwyr cyntaf y 19g i beintio bywyd y cyfnod ac yn ffigwr allweddol yn y newid o Realaeth i Argraffiadaeth (Impressionnisme).[1]

- Mae "'Manet'" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Manet a Monet, arlunydd arall o'r un cyfnod.
Achosodd ei weithiau enwog cynnar Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair) ac Olympia gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.
Wedi'i geni a magu ym Mharis, yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg Diego Velázquez (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.
Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda Baudelaire a ymddangosodd yn ei ddarlun Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.
Ym 1869 a 1987 cynhaliodd arddangosfeydd un-dyn. Yn yr 1870au, o dan ddylanwad Claude Monet a Renoir, beintiodd dirluniau a golygfeydd o strydoedd wedi'u dylanwadau gan Argraffiadaeth (Impressionnisme). Serch hynny bu'n gyndyn i arddangos ei waith gyda'r impressionnistes gan obeithio am gydnabyddiaeth y Salon.
Remove ads
Oriel Édouard Manet
- Picnic ar y Gwair, 1863
- Bar yn y Folies-Bergère, 1882
- Olympia, 1863
- Y Canwr Sbaeneg, 1860
Amgueddfa Gelf Metropolitan - Bachgen yn dal cleddyf, 1861
- Y Hen Gerddor,1862
Oriel Gelf Genedlaethol - Mlle. Victorine mewn gwisg Matador, 1862
Amgueddfa Gelf Metropolitan - Crist Farw gydag Angylion
1864 - Brwydr Kearsarge a'r Alabama, 1864
Amgueddfa Gelf Philadelphia - Matador Farw, 1864–1865
Oriel Gelf Genedlaethol - Yr Athronydd, (y cardotyn gyda llymeirch), 1864–1867
Sefydliad Celf Chicago, - Codwr Clytiau, 1865–1870
Amgueddfa Norton Simon - Y Darllen, 1865–1873
- Ffliwtydd Ifanc, 1866 Musée d'Orsay
- Bywyd Llonydd gyda Melon a Eirin Gwlanog, 1866
Oriel Gelf Genedlaethol - Yr Actor Trasig (Rouvière fel Hamlet), 1866
Oriel Gelf Genedlaethol - Merch gyda Pharot
Amgueddfa Gelf Metropolitan, 1866 - Portread Madame Brunet
Amgeuddfa J. Paul Getty Museum, 1867 - Dienyddio Brenin Maximilian, 1868
- Portread Émile Zola, 1868
Musée d'Orsay - Brecwast yn y Stiwdio (y siaced du), 1868
Neue Pinakothek - Y Balconi, 1868–1869
Musée d'Orsay - Hwylio, 1874
Amgueddfa Gelf Metropolitan - Camlas Fawr Fenis (Fenis Glas)
Amgueddfa Shelburne Museum, 1875 - Madame Manet, 1874–1876
Amgueddfa Norton Simon, - Portread Stéphane Mallarmé, 1876
Musée d'Orsay - Nana, 1877
- Rue Mosnier gyda baneri, 1878
Amgeuddfa J. Paul Getty Museum - Yr Eirinen, 1878
Oriel Gelf Genedlaethol - Chez le père Lathuille, 1879
Musée des Beaux-Arts Tournai - Asbaragws, 1880
Wallraf-Richartz Museum, Cologne, Germany - Y Biwglwr, 1882
Amgeuddfa Gelf Dallas - Tŷ yn Rueil, 1882
Amgeuddfa Victoria, Melbourne, - Lôn yr Ardd, Rueil, 1882
Musée des Beaux-Arts de Dijon - Blodau mewn Fâs Gwydr, 1882
Oriel Gelf Genedlaethol - Bywyd Llonydd, Tusw Lilac, 1883
- Carnasiwn a Clematis mewn Fâs Gwydr, 1883
Musée d'Orsay,
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
