Marche
rhanbarth yr Eidal From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Rhanbarth yng nghanolbarth yr Eidal yw Marche. Ancona yw'r brifddinas; dinasoedd eraill yw Pesaro a Fano.
Mae Marche yn ffinio ar ranbarth Emilia-Romagna a gweriniaeth San Marino yn y gogledd, Toscana yn y gogledd-orllewin, Umbria yn y gorllewin ac Abruzzo a Lazio yn y de. Yn y dwyrain mae'r Môr Adriatig.
Yn y cyfnod Rhyfeinig, adwaenid yr ardal fel Picenum. Trigai llwyth Galaidd y Senones ger yr arfordir. Daw'r enw presennol o le marche de Ancona, ac mae'n lluosog.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,541,319.[1]

Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
- Ancona
- Ascoli Piceno
- Fermo
- Macerata
- Pesaro ac Urbino (Pesaro yw'r ganolfan weinyddol)

Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
