Marchog
rhywun sydd wedi cael teitl er anrhydedd gan deyrn neu arweinydd gwleidyddol arall From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Milwr sy'n ymladd ar gefn ceffyl (march) yw marchog. Mae'n ddull hynafol o ymladd y ceir tystiolaeth helaeth ohono yn rhyfeloedd yr Henfyd. Erbyn heddiw mae'r marchog fel milwr yn perthyn i hanes ond mae rhai gwledydd yn parhau i gadw marchogluoedd at bwrpas seremonïol.

- Erthygl yw hon am filwr ar gefn ceffyl. Gweler hefyd marchog (gwahaniaethu) a marchog (gwyddbwyll).
Remove ads
Yr Oesoedd Canol
Roedd y marchog yn yr Oesoedd Canol yn cyfateb i danc yn ein oes fodern. Roedd yn gwisgo haenau ar haenau o arfwisg y technoleg mwya diweddar. Nid dyn cyffredin oedd y marchog fodd bynnag gan fod y fath wisg yn ofnadwy o gostus. Roedd yn rhaid bod yn ddyn cyfoethog iawn gyda statws uchel i ddod yn farchog oherwydd roedd talu am geffyl, edrych ar ei ôl, trin, magu, bwydo a hyfforddi’r ceffyl yn costio tua’r un faint ac awyren fechan heddiw. Heb sôn am dalu am yr arfwisg i gael ei wneud a'i ffitio’r marchog gan of arbennig. Nid gwaith i'r gof lleol oedd i greu’r arfwisg. Roedd ei arfau hefyd yn gostus iawn: cleddyf, tarian, cyllell ac efallai ychydig o waywffyn.
Remove ads
Gweler hefyd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
