Mate

From Wikipedia, the free encyclopedia

Mate
Remove ads

Trwyth-ddiod traddodiadol caffein-gyfoethog o Dde America yw Mate.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Thumb
Mate

Mae mate yn ddiod poblogaidd iawn yn Yr Ariannin (lle mae'n cael ei ddiffinio gan y gyfraith fel y "trwyth cenedlaethol"), ac mae yfed mate hefyd yn boblogaidd yn Wrwgwái, Paragwái, Bolifia, De Brasil a De Tsile.

Caiff mate ei baratoi drwy lenwi plisgyn gowrd gyda dail sych y gelynnen arbennig Yerba mate (Ilex paraguariensis), cyn ychwanegu dŵr poeth at y dail. Fe gaiff y trwyth ei yfed drwy welltyn metel a eiliwr yn ‘bombilla’ mewn Sbaeneg. Mae sawl defod arbennig ynghylch paratoi ac yfed mate ac mae yfed mate yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd cymdeithasol mewn sawl rhan o Dde America.

Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads