Microsoft
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cwmni cyfrifiadurol ydy Microsoft. Maent yn enwog am fod un o'r cwmnïau fwyaf llwyddiannus y byd cyfrifiadurol.

Remove ads
Hanes a strwythur
Wedi ei sefydlu ym 1975, Microsoft yw'r arweinwyr byd-eang mewn meddalwedd, gwasanaethau ac atebion sy'n helpu pobl a busnesau i gyflawni eu holl potensial.
Mae prif swyddfa'r cwmni yn Redmond, Washington State yn yr Unol Daleithiau, ond mae swyddfeydd gyda nhw yng ngwledydd eraill hefyd. Steve Balmer yw pennaeth y cwmni, ar ôl i Bill Gates ymddeuol yn haf 2008.
Meddalwedd
Ei gynnyrch enwocaf yw Microsoft Windows, sydd ar gael mewn sawl fersiwn yn cynnwys Windows XP a Windows Vista; dyma'r system mwyaf poblogaidd o bell ffordd ar gyfer y Cyfrifiadur Personol (PC). Mae'r meddalwedd ar gael yn Gymraeg o wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae cynnyrch poblogaidd eraill yn cynnwys y porwr gwe Internet Explorer a Microsoft Office, rhaglennu sydd yn boblogaidd iawn ar ledled y byd. Gellir hefyd defnyddio "Spell Check" Cymraeg fel ychwanegiad i Microsoft Office, sydd ar gael ar wefan Microsoft.
Remove ads
Gemau
Mae gan Microsoft nifer o gwmnïau gemau, ac mae ganddynt hanes o ryddhau gemau poblogaidd (e.e. Cyfres Age Of Empires efo Ensemble Studios.) Yn dilyn hyn rhyddhawyd y systemau gemau Xbox (2002) a Xbox 360 (2005).

Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads