Nerva

ymerawdwr Rhufain Hynafol From Wikipedia, the free encyclopedia

Nerva
Remove ads

Nerva Caesar Augustus neu Nerva (8 Tachwedd 30 OC27 Ionawr 98 OC) oedd Ymerawdwr Rhufain o 18 Medi 96 OC hyd ei farwolaeth. Ganwyd Marcus Cocceius Nerva.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Roedd Nerva yn aelod o deulu bonheddig o ddinas Narnia i'r gogledd o Rufain. Gwasanaethodd fel Conswl gyda Vespasian yn 71 OC a gyda Domitian yn 90 OC. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Domitian yn 96 penodwyd Nerva yn ymerawdwr dan y Senedd, dan ddylanwad y blaid oedd wedi cynllwynio yn erbyn Domitian. Rhyddhaodd Nerva lawer o garcharorion Domitian, ac ysgafnhaodd y trethi. Roedd Nerva eisoes yn oedrannus a heb fab, felly dewisodd Trajan fel ei olynydd.

Nerva oedd y cyntaf o bedwar ymerawdwr oedd heb blant. Oherwydd hyn, dewisodd pob un ohonynt y person oedd yn ymddangos fel yr olynydd mwyaf addas, a'i fabwysiadu. Roedd y cyfnod yma yn oes aur i Rufain, gyda pob un o'r gwŷr a ddewiswyd yn llywodraethu'n dda ac yn gydwybodol. Roedd gan y pumed ymerawdwr yn y llinach yma, Marcus Aurelius, fab, a daeth yr oes aur i ben.

Rhagflaenydd:
Domitian
Ymerawdwr Rhufain
18 Medi 96 OC17 Ionawr 98 OC
Olynydd:
Trajan
Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads